Photograph By Andrew Gale 07751558867
Mae yna gwersyllfa milwrol wedi bod ar y bryn uwchben Llangollen am oleiaf 3,000 o flynyddoedd. Cafodd yr olion a welir yno heddiw ei adeiladu gan Madog ap Gruffydd Maelor I yn yr 13ed Ganrif. Ef hefyd a sefydlodd yr Abaty Valle Crucis gerllaw.
Ar ôl cwbwlhau y castell ‘roedd o dan rheolaeth Tywysog o Powys am ugain mlynedd cyn iddo cael ei ildio i Henry de Lacy, Iarll Lincoln yn 1277 ar ran y Goron Saesneg.
Photograph By Andrew Gale 07751558867
Llosgodd De Lacy y castell yn ulw ac ni chafodd ei ail-adeiladu – mae’r ffaith bod yr olion yn dal i sefyll ar ôl canrifoedd yn destament i cryfder yr adeilad gwreiddiol.
Fe geisiodd Owain Glyndŵr ail-ennill y tir yn 1402 ond fe fu yn aflwyddiannus.
Mae’r enw Dinas Bran wedi sicrhau aer hudol am y lleoliad.
Fe awgrymir mai Bran oedd yr adeiladwr a adeiladodd y caer cyntaf yn y lleoliad yn Oes Haearn yn ogystal a bod yn un o’r ceidwadwyr Y Greal Sanctaidd. Mae’r gair Bran yn aderyn gennym ni yng Nghymru, yr un peth ac ystyr y gair Corbenic, y castell yn chwedl Grael Arthur – a’i Bran oedd sylfaen i chwedl am Brenin Fisher ?
Mewn stori arall am Bran mae sôn ei fod wedi colli ei ben, gyda’i ben yn cael ei gladdu yn Llundain lle mae Tower Hill, a dyma yw y rheswn pam bod cigfrain yn aderyn mor bwysig i Tŵr Llundain hedddiw.
Gwir a’i peidio, mae gan pob chwedl ei sylfaen ac mae mynd am dro i fyny at castell Dinas Bran yn delfrydol tro hwn.